Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(f), (g), (j) a (k) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Hefyd, cyflwynodd Deddf 2016 gysyniad newydd o “gwasanaeth rheoleiddiedig” sydd wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf honno. Rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru (wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol) gan bennu’r gwasanaeth rheoleiddiedig y mae’r person yn dymuno ei ddarparu.

Mae adran 2(1)(e) o Ddeddf 2016 yn darparu bod gwasanaeth maethu yn wasanaeth rheoleiddiedig, sydd wedi ei ddiffinio yn Atodlen 1 i’r Ddeddf honno i olygu unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath. Mae adran 3(1)(c) o Ddeddf 2016 yn diffinio “darparwr gwasanaeth” fel person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o’r Ddeddf honno i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig.

Mae adran 27 o Ddeddf 2016 yn darparu y caiff rheoliadau osod gofynion ar ddarparwr gwasanaeth mewn perthynas â gwasanaeth rheoleiddiedig. Mae adran 28 o’r Ddeddf honno yn darparu ymhellach y caiff rheoliadau osod gofynion ar unigolion cyfrifol sydd wedi eu dynodi gan ddarparwr gwasanaeth rheoleiddiedig.

Mae adran 30 o Ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod, ac mae adran 31 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i reoliadau gael eu gwneud ynghylch darparwyr sydd wedi marw.

Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau hefyd er mwyn darparu ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth (adran 45 o Ddeddf 2016) ac i unigolyn cyfrifol (adran 46 o’r Ddeddf honno) fethu â chydymffurfio â darpariaethau penodedig.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau.

Mae Rhan 2 yn nodi’r gofynion cyffredinol sy’n gymwys i ddarparwyr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, cynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth a’r ddyletswydd gonestrwydd. O dan adran 6 o Ddeddf 2016, rhaid i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth maethu rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru y mae person wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol ynddo, ac mae Rhan 2 hefyd yn rhoi manylion am ofynion mewn perthynas â dynodi’r unigolyn cyfrifol.

Mae Rhan 3 yn disgrifio’r gofynion y mae rhaid i ddarparwyr gwasanaethau eu bodloni o ran y camau y mae rhaid iddynt gael eu cymryd cyn y caniateir i blentyn gael ei leoli gyda rhieni maeth. Mae Rhan 4 yn nodi’r gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn canllaw ysgrifenedig i’w ddarparu i blant a rhieni maeth wrth gychwyn lleoliad.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r gofynion y mae rhaid iddynt gael eu bodloni mewn perthynas â safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â diwallu anghenion iaith a chyfathrebu plentyn a thrin plant â pharch a sensitifrwydd. Mae hefyd yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn cydymffurfio â’r gofynion a nodir yn y cytundeb gofal maeth fel y’u rhagnodir yn Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/XXXX) (Cy. ), a hybu cyswllt rhwng plentyn a faethir a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn.

Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y plant y mae’n eu lleoli gyda rhieni maeth yn ddiogel ac wedi eu hamddiffyn rhag camdriniaeth. Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod yn eu lle mewn perthynas â diogelu a defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod gofynion penodol o ran y camau gweithredu sydd i’w cymryd os bydd honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth. Mae’r Rhan hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefnau penodol yn eu lle, gan gynnwys y rheini mewn perthynas â bwlio a’r rheini sy’n gymwys pan aiff plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth yn absennol heb ganiatâd.

Mae Rhan 7 yn nodi gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau i roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant yn cael mynediad i wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill.

Mae Rhan 8 yn cynnwys gofynion o ran staffio, sy’n cynnwys gofynion cyffredinol o ran defnyddio niferoedd digonol o staff a gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion hyn yn gymwys nid yn unig i gyflogeion ond hefyd i wirfoddolwyr ac i bersonau eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth maethu, a fyddai’n cynnwys staff asiantaeth. Mae’r gofynion addasrwydd yn cynnwys gofyniad i wybodaeth a dogfennaeth benodol fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau maethu.

Ymhlith y gofynion eraill a gynhwysir yn Rhan 8 mae gofynion sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu staff, darparu gwybodaeth i staff a gweithredu gweithdrefn ddisgyblu addas. I sicrhau bod cyflogeion yn adrodd am achosion o gamdriniaeth i berson priodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithdrefn ddisgyblu’r darparwr ddarparu y byddai methu ag adrodd ynddo’i hun yn sail dros achos disgyblu. Mae’r Rhan hon hefyd yn cyfyngu ar bersonau penodol rhag cael eu cyflogi gan y darparwr gwasanaeth mewn rolau allweddol penodedig.

Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau bod mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar sydd i’w defnyddio mewn perthynas â gwasanaethau maethu yn addas ac yn ddiogel.

Mae Rhan 10 yn nodi’r gofyniad i gadw cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu, ac mae Atodlen 2 yn nodi’r cofnodion penodol y mae rhaid eu cadw. Mae Rhan 10 hefyd yn ymdrin â gwneud hysbysiadau i Weinidogion Cymru ac i gyrff eraill, ac mae Atodlen 3 yn rhestru’r hysbysiadau penodol y mae’n ofynnol iddynt gael eu gwneud. Mae’r Rhan hon yn gosod gofynion pellach ar ddarparwyr gwasanaethau mewn perthynas â chael polisi cwyno yn ei le, ynghyd â gweithdrefnau i ymdrin ag unrhyw bryderon chwythu’r chwiban y gall aelodau o staff a gwirfoddolwyr eu codi.

Mae Rhan 11 yn amlinellu’r cymorth a’r cynhorthwy arall sydd i’w rhoi i rieni maeth. Mae’r Rhan hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau oruchwylio rhieni maeth a sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau allweddol ac yn gweithredu yn unol â hwy.

Mae Rhan 12 yn nodi’r gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau y caiff y gwasanaeth ei reoli’n effeithiol. Mae dyletswydd gyffredinol ar yr unigolyn cyfrifol i oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth ac mae arno ddyletswyddau penodol i benodi person addas i reoli’r gwasanaeth. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hefyd roi trefniadau yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth pan yw’r rheolwr yn absennol. Mae’r Rhan hon hefyd yn nodi manylion yr ymweliadau y mae rhaid i unigolion cyfrifol ymgymryd â hwy.

Mae Rhan 13 yn cynnwys gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol. Drwy osod y gofynion hyn ar yr unigolyn cyfrifol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn sicrhau bod person ar lefel briodol uchel yn y sefydliad yn atebol am ansawdd a chydymffurfedd y gwasanaeth. Hefyd, mae’n ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud adroddiadau i’r darparwr gwasanaeth ar ddigonolrwydd adnoddau ac ar faterion eraill. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau hefyd ar gyfer ymgysylltu â phlant ac eraill fel y gall eu safbwyntiau ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gael eu hystyried gan y darparwr.

Mae Rhan 14 yn nodi’r ddyletswydd ar yr unigolyn cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol, gan gynnwys y rheini ar gyfer cadw cofnodion a chofnodi digwyddiadau a chwynion. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hefyd sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol.

Mae Rhan 15 yn gosod gofynion ar yr unigolyn cyfrifol ar gyfer monitro ac adolygu ansawdd y gwasanaeth, ac ar gyfer gwneud adroddiad i’r darparwr gwasanaeth.

Mae Rhan 16 yn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn cyfrifol wneud yr hysbysiadau a amlinellir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru, a sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr. Mae’r Rhan hon hefyd yn gosod dyletswydd gonestrwydd ar yr unigolyn cyfrifol.

Mae Rhan 17 yn darparu bod methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn yn drosedd. Mewn perthynas â gofynion penodol eraill, mae’r Rhan hon yn darparu bod methiant i gydymffurfio yn drosedd os yw’r methiant i gydymffurfio yn arwain at wneud plentyn yn agored i niwed y gellir ei osgoi, neu’n agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu’n agored i golli arian neu eiddo o ganlyniad i ddwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi.

Mae Rhan 17 hefyd yn darparu ei bod yn drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 18 yn pennu’r cyfrifoldebau ar y “person a benodir” os bydd y darparwr gwasanaeth yn mynd yn ansolfent. Mae’r Rhan hon hefyd yn nodi’r camau i’w cymryd gan gynrychiolwyr personol yr ymadawedig os bydd darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn yn marw. Mae’n galluogi’r cynrychiolwyr personol i weithredu fel y darparwr ac yn addasu Deddf 2016 fel nad yw’n ofynnol, o dan yr amgylchiadau hyn, i’r cynrychiolwyr personol gofrestru fel darparwr, a gall un o’r cynrychiolwyr personol gael ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol.

Mae Rhan 19 yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o Ddeddf 2016 wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(f), (g), (j) a (k) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                            29 Ebrill 2019

CYNNWYS

RHAN 1

Cyffredinol

 

1.              Enwi a chychwyn

2.              Dehongli

RHAN 2

Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

 

3.              Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth

4.              Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

5.              Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

6.              Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol

7.              Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr yn unigolyn

8.              Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth

9.              Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

10.            Dyletswydd gonestrwydd

RHAN 3

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn darparu gofal a chymorth

 

11.            Addasrwydd y gwasanaeth

RHAN 4

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu gofal a chymorth

 

12.            Gwybodaeth am y gwasanaeth

RHAN 5

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu

 

13.            Safonau gofal a chymorth i blant – gofynion cyffredinol

14.            Addasrwydd parhaus y lleoliad

15.            Gwybodaeth ar gyfer plant

16.            Iaith a chyfathrebu

17.            Parch a sensitifrwydd

18.            Cydymffurfedd â’r cytundeb gofal maeth

19.            Dyletswydd i hybu cyswllt

RHAN 6

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu

 

20.            Diogelu – gofynion cyffredinol

21.            Polisïau a gweithdrefnau diogelu

22.            Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol

23.            Gwaharddiad ar ddefnyddio cosb gorfforol

24.            Amddifadu o ryddid

25.            Polisi a gweithdrefnau ar fwlio

26.            Y weithdrefn pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd

RHAN 7

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau mynediad i wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill

 

27.            Mynediad i wasanaethau iechyd

28.            Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

RHAN 8

Staffio

 

29.            Staffio - gofynion cyffredinol

30.            Addasrwydd staff

31.            Cefnogi a datblygu staff

32.            Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr

33.            Gwybodaeth ar gyfer staff

34.            Gweithdrefnau disgyblu

35.            Cyfyngiadau ar gyflogaeth

RHAN 9

Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

 

36.            Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar - darparwyr gwasanaethau

37.            Digonolrwydd cyfleusterau

38.            Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar - rhieni maeth

RHAN 10

Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

 

39.            Cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu

40.            Hysbysiadau

41.            Gwrthdaro buddiannau

42.            Polisi a gweithdrefnau cwyno

43.            Chwythu’r chwiban

RHAN 11

Cefnogi a goruchwylio rhieni maeth

 

44.            Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer rhieni maeth

45.            Polisïau a gweithdrefnau i rieni maeth

46.            Goruchwylio

47.            Perthnasoedd gwaith effeithiol

48.            Cefnogi plant i reoli eu harian

RHAN 12

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

 

49.            Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth

50.            Dyletswydd i benodi rheolwr

51.            Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

52.            Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth

53.            Dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i’r darparwr gwasanaeth

54.            Dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru

55.            Y trefniadau pan yw’r rheolwr yn absennol

56.            Ymweliadau

RHAN 13

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

 

57.            Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

58.            Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth

59.            Ymgysylltu â phlant ac eraill

RHAN 14

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth

 

60.            Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion

61.            Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

62.            Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

RHAN 15

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth

 

63.            Adolygiad o ansawdd y gofal

64.            Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth

RHAN 16

Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol

 

65.            Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon

66.            Dyletswydd gonestrwydd

67.            Hysbysiadau

RHAN 17

Troseddau

 

68.            Troseddau – darparwyr gwasanaethau

69.            Troseddau – unigolion cyfrifol

RHAN 18

Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

 

70.            Penodi datodwyr etc.

71.            Marwolaeth y darparwr gwasanaeth

RHAN 19

Rheoliadau o dan adran 21(5) o Ddeddf 2016

 

72.            Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru

 

 

ATODLEN 1          

Rhan 1 – Gwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau syʼn gweithio mewn gwasanaethau maethu

Rhan 2  – Dehongli Rhan 1

               

ATODLEN 2 – Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr gwasanaethau

 

ATODLEN 3 – Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

                   Rhan 1Hysbysiadau i Weinidogion Cymru

Rhan 2 – Hysbysiadau iʼr awdurdod lleoli

Rhan 3 – Hysbysiadau iʼr awdurdod lleol y maeʼr cartref maeth yn ei ardal

Rhan 4 – Hysbysiadau iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr plentyn wedi ei leoli yn ei ardal

Rhan 5 – Hysbysiadau iʼr heddlu

 

ATODLEN 4 – Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 21(5), 27, 28, 30, 31, 45, 46 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([1]) (“Deddf 2016”).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel sy’n ofynnol gan adrannau 27(4)(a) ac 28(4) o Ddeddf 2016, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan adran 27(4)(b) o’r Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi gosod y datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel sy’n ofynnol gan adran 27(5) o’r Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(f), (g), (j) a (k) o Ddeddf 2016 ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw unrhyw addasiadau rhesymol a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010([2]);

ystyr “awdurdod ardal” (“area authority”) yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr ar gyfer yr ardal y mae’r plentyn wedi ei leoli ynddi, neu i’w leoli ynddi, pan fo hyn yn wahanol i’r awdurdod lleoli;

ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

(a)     cyngor sir yn Lloegr,

(b)     cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr nad oes cyngor sir ar ei chyfer,

(c)     cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

(d)     Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”), mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr, yw’r awdurdod lleol hwnnw;

ystyr “camdriniaeth” a “cam-drin” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rhywiol,
seicolegol, emosiynol neu ariannol, ac mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys y canlynol—

(a)     bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn,

(b)     bod person yn cael ei dwyllo,

(c)     bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall, neu

(d)     bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw—

(a)     y canlyniadau y mae’r plentyn yn dymuno eu cyflawni, neu

(b)     y canlyniadau y mae unrhyw bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant yn dymuno eu cyflawni mewn perthynas â’r plentyn;

mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([3]);

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun ar gyfer y plentyn a wneir o dan adran 83 o Ddeddf 2014([4]);

ystyr “cytundeb gofal maeth” (“foster care agreement”) yw’r cytundeb ysgrifenedig sy’n cwmpasu’r materion a bennir yn Atodlen 3 i Reoliadau 2018;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn unol â rheoliad 3(c) o Reoliadau Cofrestru 2018 ac Atodlen 2 iddynt ar gyfer y man y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn perthynas ag ef([5]);

ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;

ystyr “y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd” (“the Disclosure and Barring Service”) a’r “GDG” (“DBS”) yw’r corff a sefydlir gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012([6]);

mae i “gweithiwr” yr un ystyr â “worker” yn adran 230(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y gofrestr a gynhelir gan GCC([7]) o dan adran 80 o Ddeddf 2016, yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001([8]) neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw lleoli plentyn gyda rhiant maeth o dan adran 81(5), (6)(a) a (b) o Ddeddf 2014;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol” (“child who is looked after by a local authority”) yr un ystyr ag yn adran 74 o Ddeddf 2014;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015([9]);

ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018([10]);

ystyr “Rheoliadau Cofrestru 2017” (“the 2017 Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017([11]);

mae “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi cael ei gymeradwyo fel rhiant maeth yn unol â Rheoliadau 2018, ac mae’n cynnwys person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth);

mae “staff” (“staff”) yn cynnwys—

(a)     personau a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth i weithio yn y gwasanaeth fel cyflogai neu weithiwr, a

(b)     personau sydd wedi eu cymryd ymlaen gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract ar gyfer gwasanaethau,

ond nid yw’n cynnwys personau y caniateir iddynt weithio fel gwirfoddolwyr;

ystyr “triniaeth amhriodol” (“improper treatment”) yw gwahaniaethu neu ataliaeth anghyfreithlon, gan gynnwys amddifadu amhriodol o ryddid o dan delerau Deddf Galluedd Meddyliol 2005([12]);

ystyr “tystysgrif GDG” (“DBS certificate”) yw tystysgrif o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 1;

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn a ddynodir gan ddarparwr gwasanaeth wrth wneud cais i gofrestru o dan adran 6 o Ddeddf 2016;

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig([13]) sydd—

(a)     yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([14]), neu

(b)     yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno.

RHAN 2

Gofynion cyffredinol ar ddarparwyr gwasanaethau

Gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth

3. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben

4.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)   cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a

(b) pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.

(4) Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—

(a)     Gweinidogion Cymru,

(b)     unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth gan y darparwr gwasanaeth, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,

(c)     rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,

(d)     rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(e)     personau sy’n gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu,

(f)      yr awdurdod lleoli.

(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.

Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella

5.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2) Rhaid i’r trefniadau gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—

(a)     unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth gan y darparwr gwasanaeth,

(b)     rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)     rhieni maeth,

(d)     personau sy’n gweithio at ddibenion y gwasanaeth maethu,

(e)     yr awdurdod lleoli, ac

(f)      yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod ardal hwnnw,

ar ansawdd y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.

(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i ddarparwr gwasanaeth—

(a)     ystyried safbwyntiau’r rheini yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a

(b)     rhoi sylw i’r adroddiad a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 63(4) (adolygiad o ansawdd y gofal).

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol

6.(1)(1) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.

(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol([15])—

(a)     yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a

(b)     yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.

(3) Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 12 i 16, rhaid i’r darparwr—

(a)     cymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a

(b)     hysbysu Gweinidogion Cymru.

(4) Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)     rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)     goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)     cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y Rheoliadau hyn, a

(d)     monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(5) Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     hysbysu Gweinidogion Cymru, a

(b)     rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am y trefniadau interim.

Gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r darparwr yn unigolyn

7.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.

(3) Yn ystod unrhyw adeg pan yw’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—

(a)     rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,

(b)     goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,

(c)     cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y Rheoliadau hyn, a

(d)     monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(4) Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol, a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—

(a)     hysbysu Gweinidogion Cymru, a

(b)     rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am y trefniadau interim.

Gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth

8.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r cyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.

Gofynion i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau

9.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—

(a)     lleoli a chychwyn y gwasanaeth (gweler rheoliad 11 (addasrwydd y gwasanaeth)),

(b)     diogelu (gweler rheoliad 21),

(c)     defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 22),

(d)     bwlio  (gweler rheoliad 25),

(e)     absenoldeb (gweler rheoliad 26),

(f)      meddyginiaeth (gweler rheoliad 27 (mynediad i wasanaethau iechyd)),

(g)     cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 31),

(h)     disgyblu staff (gweler rheoliad 34),

(i)       cwynion (gweler rheoliad 42),

(j)       chwythu’r chwiban (gweler rheoliad 43),

(k)     cymorth ar gyfer rhieni maeth o ran sut i helpu plant i reoli eu harian (gweler rheoliad 48).

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—

(a)     yn briodol i anghenion plant y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,

(b)     yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac

(c)     yn cael eu cadwʼn gyfredol.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.

(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle o dan baragraff (1)(a), (b), (c), (d) ac (i) yn ystyried anghenion unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt.

Dyletswydd gonestrwydd

10. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)     unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,

(b)     rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,

(c)     rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(d)     yr awdurdod lleoli,

(e)     yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod ardal hwnnw.

RHAN 3

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd cyn darparu gofal a chymorth

Addasrwydd y gwasanaeth

11.(1)(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gytuno i leoli plentyn gyda rhiant maeth oni bai bod y darparwr wedi penderfynu bod lleoliad addas a all ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth a galluogi’r plentyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar leoliadau a chychwyn y gwasanaeth.

(3) Rhaid i’r penderfyniad o dan baragraff (1) ystyried—

(a)     cynllun gofal a chymorth y plentyn,

(b)     unrhyw asesiadau iechyd neu unrhyw asesiadau perthnasol eraill,

(c)     safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn,

(d)     unrhyw risgiau i lesiant y plentyn,

(e)     unrhyw risgiau i lesiant unrhyw blentyn arall y gall y lleoliad sydd i’w wneud effeithio arno,

(f)      argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn, ynghyd â’i gyfeiriadedd rhywiol a’i hunaniaeth o ran rhywedd,

(g)     unrhyw addasiadau rhesymol y gallai’r darparwr gwasanaeth eu gwneud i alluogi i anghenion gofal a chymorth y plentyn gael eu diwallu,

(h)     polisi a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth ar leoliadau a chychwyn y gwasanaeth.

(4) Wrth wneud y penderfyniad ym mharagraff (1), rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys—

(a)     y plentyn, pan fo’n ymarferol,

(b)     rhieni’r plentyn, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)     yr awdurdod lleoli.

RHAN 4

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolion wrth gychwyn darparu gofal a chymorth

Gwybodaeth am y gwasanaeth

12.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lunio canllaw ysgrifenedig ar y gwasanaeth.

(2) Rhaid iʼr canllaw—

(a)     cael ei ddyddio, ei adolygu o leiaf bob blwyddyn aʼi ddiweddaru fel y bo angen,

(b)     bod mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant (o bob oedran a dealltwriaeth) ac oedolion,

(c)     cael ei roi i—

                            (i)    unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,

                          (ii)    unrhyw rieni maeth a darpar rieni maeth,

                        (iii)    yr awdurdod lleoli, a

(d)     cael ei roi ar gael i eraill ar gais, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddaiʼn anghyson â llesiant y plentyn.

(3) Rhaid iʼr canllaw gynnwys y canlynol—

(a)     crynodeb o’r polisïau a’r gweithdrefnau y mae rhaid i’r darparwr gwasanaeth eu rhoi yn eu lle o dan reoliad 9(1)(a), (b), (c), (d), (e), (f), (i) a (k),

(b)     gwybodaeth am sut i wneud cwyn,

(c)     gwybodaeth am argaeledd gwasanaethau eirioli i blant syʼn derbyn gofal gan awdurdod lleol,

(d)     gwybodaeth am rôl a manylion cyswllt Comisiynydd Plant Cymru.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w galluogi i ddeall yr wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw.

RHAN 5

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu

Safonau gofal a chymorth – gofynion cyffredinol

13. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn rhoi gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy—

(a)     yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn, a

(b)     mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn.

Addasrwydd parhaus y lleoliad

14. Os nad yw’r lleoliad sydd wedi ei wneud gan y darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid yn anghenion asesedig y plentyn, yn addas i ddiwallu anghenion y plentyn am ofal a chymorth mwyach, hyd yn oed ar ôl i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud, rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r awdurdod lleoli ar unwaith.

Gwybodaeth ar gyfer plant

15.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan blant yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud a chymryd rhan mewn penderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.

(2) Rhaid iʼr wybodaeth a ddarperir fod ar gael mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant o bob oedran.

(3) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.

Iaith a chyfathrebu

16.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith plant.

(2) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar syʼn angenrheidiol i blant i hwylusoʼr ffordd y maent yn cyfathrebu ag eraill.

Parch a sensitifrwydd

17.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.

(2) Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—

(a)     parchu preifatrwydd ac urddas y plentyn,

(b)     parchu hawliauʼr plentyn i gyfrinachedd,

(c)     hybu ymreolaeth ac annibyniaeth y plentyn, a

(d)     rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel yʼu diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) y plentyn.

Cydymffurfedd â’r cytundeb gofal maeth

18. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth fonitro cydymffurfedd y rhieni maeth â gofynion y cytundeb gofal maeth.

Dyletswydd i hybu cyswllt

19. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt.

RHAN 6

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu

Diogelu – gofynion cyffredinol

20. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli ganddo yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.

Polisïau a gweithdrefnau diogelu

21.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—

(a)     ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a

(b)     ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.

(2) Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4) Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     gweithredu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau diogelu,

(b)     cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob plentyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,

(c)     gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a

(d)     cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.

Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol

22.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth.

(2) Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau wahardd gofal a chymorth rhag cael eu darparu mewn ffordd syʼn cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal plentyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—

(a)     yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir iʼr plentyn neu i bersonau eraill neu ddifrod difrifol tebygol i eiddo, a

(b)     yn ymateb cymesur i risg oʼr fath.

(3) Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth gael eu hyfforddi mewn unrhyw ddulliau rheoli neu atal sydd iʼw defnyddio.

(4) Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau ei gwneud yn ofynnol i rieni maeth—

(a)     gwneud cofnod o unrhyw ddigwyddiad pan ddefnyddir rheolaeth neu ataliaeth, a

(b)     hysbysu’r darparwr gwasanaeth am unrhyw ddigwyddiad o’r fath o fewn 24 awr.

(5) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir gan rieni maeth yn cael ei chyflawni yn unol âʼr polisïau aʼr gweithdrefnau hyn.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neuʼn atal plentyn os ywʼr person hwnnw—

(a)     yn defnyddio, neuʼn bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y maeʼr plentyn yn ei gwrthsefyll, neu

(b)     yn cyfyngu ar ryddid symud y plentyn, pa un a ywʼr plentyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.

(7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “niwed” yr un ystyr ag yn adran 22(10) o Ddeddf 2016.

Gwaharddiad ar ddefnyddio cosb gorfforol

23. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw rhieni maeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw blentyn.

Amddifadu o ryddid

24. Ni chaniateir amddifadu plentyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.

Polisi a gweithdrefnau ar fwlio

25. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael yn eu lle bolisi ar atal bwlio a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.

Y weithdrefn pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd

26. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gweithdrefn i’w dilyn pan yw unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth gan y darparwr yn absennol heb ganiatâd.

RHAN 7

Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau mynediad i wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill

Mynediad i wasanaethau iechyd

27.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn hybu iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

(2) Yn benodol, rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod rhieni maeth—

(a)     yn cofrestru pob plentyn ag ymarferydd cyffredinol,

(b)     yn darparu i bob plentyn fynediad i unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, optegol, nyrsio, seicolegol a seiciatrig y mae eu hangen ar y plentyn,

(c)     yn cefnogi pob plentyn i gael unrhyw gymorth, cymhorthion a chyfarpar unigol y mae eu hangen ar y plentyn o ganlyniad i unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd ganddo, a

(d)     yn darparu i bob plentyn ganllawiau, cymorth a chyngor ynghylch iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd syʼn briodol i anghenion a dymuniadauʼr plentyn.

(3) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â rhoi meddyginiaethau gan rieni maeth.

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

28.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod cyrhaeddiad addysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth yn cael ei hybu.

(2) Yn benodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     sefydlu gweithdrefn ar gyfer monitro cyrhaeddiad addysgol, cynnydd a phresenoldeb yn yr ysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth,

(b)     mewn perthynas â phlant oedran ysgol sydd wedi eu lleoli gyda rhieni maeth, sicrhau bod rhieni maeth yn hybu presenoldeb rheolaidd y plant yn yr ysgol aʼu cyfranogiad mewn gweithgareddau ysgol, ac

(c)     darparu i rieni maeth unrhyw wybodaeth a chynhorthwy, gan gynnwys cyfarpar, syʼn angenrheidiol i ddiwallu anghenion addysgol plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

(3) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn hybu diddordebau hamdden plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy ac yn eu cefnogi i chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy’n briodol i’w hoedran ac i gymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau([16]).

(4) Pan fo unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyrraedd yr oedran pan na foʼn ofynnol iddo gael addysg lawnamser orfodol mwyach, rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gynorthwyo i wneud trefniadau a wneir ar gyfer y plentyn mewn cysylltiad âʼi addysg, ei hyfforddiant aʼi gyflogaeth, a rhoi effaith iʼr trefniadau hynny.

RHAN 8

Staffio

Staffio - gofynion cyffredinol

29. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas yn cael eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—

(a)     iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth,

(b)     i anghenion gofal a chymorth plant,

(c)     iʼr angen i gefnogi plant i gyflawni eu canlyniadau personol,

(d)     iʼr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant, ac

(e)     i ofynion y Rheoliadau hyn.

Addasrwydd staff

30.(1)(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth—

(a)     cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny,

(b)     caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny, nac

(c)     caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi â phlant syʼn cael gofal a chymorth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

(a)     bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da,

(b)     bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad syʼn angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae iʼw wneud,

(c)     bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawniʼn briodol y tasgau syʼn rhan annatod oʼi rôl,

(d)     bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un oʼr materion sy’n ofynnol o dan baragraffau 1 i 9 o Atodlen 1, a bod yr wybodaeth hon neuʼr ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i Weinidogion Cymru edrych arni, ac

(e)     pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth i reoli’r gwasanaeth, o 1 Ebrill 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol([17]) â GCC.

(3) Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr gwasanaeth at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer y swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaruʼr GDG).

(4) Pan fo person sy’n cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

(5) Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

(6) Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, rhaid i’r darparwr gwasanaeth wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad â’r person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddi’r dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny, rhaid i geisiadau pellach o’r fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

(7) Os nad yw person sy’n gweithio yn y gwasanaeth maethu yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor o’r gofynion ym mharagraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i ddiogelu plant, a

(b)     pan fo’n briodol, hysbysu—

                            (i)    GCC,

                          (ii)    y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cefnogi a datblygu staff

31.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—

(a)     yn cael cyfnod sefydlu syʼn briodol iʼw rôl,

(b)     yn cael ei wneud yn ymwybodol oʼi gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill,

(c)     yn cael ei oruchwylio aʼi arfarnuʼn briodol,

(d)     yn cael hyfforddiant craidd syʼn briodol iʼr gwaith sydd iʼw wneud ganddo,

(e)     yn cael hyfforddiant arbenigol fel y boʼn briodol, ac

(f)      yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.

(3) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal unrhyw gofrestriad â GCC.

Cydymffurfio â chod ymarfer y cyflogwr

32. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth lynu wrth y cod ymarfer ar y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol, y mae’n ofynnol i GCC ei gyhoeddi o dan adran 112(1)(b) o Ddeddf 2016.

Gwybodaeth ar gyfer staff

33.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gwybodaeth i bob person sy’n gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) am y gwasanaeth a’r ffordd y caiff ei ddarparu.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau addas yn eu lle i wneud staff yn ymwybodol o unrhyw godau ymarfer ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n ofynnol i GCC eu cyhoeddi o dan adran 112(1)(a) o Ddeddf 2016.

Gweithdrefnau disgyblu

34.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi gweithdrefn ddisgyblu yn ei lle a’i gweithredu.

(2) Rhaid iʼr weithdrefn ddisgyblu gynnwys—

(a)     darpariaeth ar gyfer atal dros dro, a chymryd camau gweithredu heb fod mor bell ag atal dros dro, gyflogeion er budd diogelwch neu lesiant plant sy’n cael gofal a chymorth gan y gwasanaeth, a

(b)     darpariaeth bod methiant ar ran cyflogai i adrodd am achos o gam-drin, neu am amheuaeth o gam-drin, i berson priodol yn sail dros ganiatáu cychwyn achos disgyblu.

(3) At ddiben paragraff (2)(b), person priodol yw—

(a)     un o swyddogion Gweinidogion Cymru,

(b)     y darparwr gwasanaeth,

(c)     yr unigolyn cyfrifol,

(d)     swyddog i’r awdurdod lleol,

(e)     yn achos cam-drin neu amheuaeth o gam-drin plentyn, swyddog iʼr Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu

(f)      swyddog heddlu,

yn ôl y digwydd.

Cyfyngiadau ar gyflogaeth

35.(1)(1) Ni chaiff y darparwr gwasanaeth gyflogi i weithio, at ddibenion y gwasanaeth maethu, mewn swydd y mae paragraff (2) yn gymwys iddi, berson sydd—

(a)     yn rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y gwasanaeth maethu, neu

(b)     yn aelod o aelwyd rhiant maeth oʼr fath.

(2) Maeʼr paragraff hwn yn gymwys i unrhyw swydd reoli, swydd gwaith cymdeithasol neu swydd broffesiynol arall, oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud yn achlysurol, fel gwirfoddolwr, neu am ddim mwy na 5 awr mewn unrhyw wythnos, yn achos swydd nad yw’n swydd reoli nac yn swydd gwaith cymdeithasol.

RHAN 9

Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar

Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar - darparwyr gwasanaethau

36. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gweithreduʼr gwasanaeth yn addas, gan roi sylw iʼr datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Digonolrwydd cyfleusterau

37. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan y fangre a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth gyfleusterau digonol ar gyfer—

(a)     goruchwylio staff, a

(b)     storio cofnodion yn ddiogel.

Mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar - rhieni maeth

38.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir gan rieni maeth ar gyfer darparu gofal a chymorth i blant—

(a)     yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato,

(b)     yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel,

(c)     yn cael eu cynnal aʼu cadwʼn briodol, a

(d)     yn cael eu cadwʼn lân yn unol â safon syʼn briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato.

(2) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn cael eu hyfforddiʼn briodol ynghylch sut i weithredu unrhyw gyfarpar y maent yn ei ddefnyddio wrth ddarparu gofal a chymorth i blentyn.

RHAN 10

Gofynion eraill ar ddarparwyr gwasanaethau

Cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu

39.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 am 15 mlynedd.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 yn gywir ac yn gyfredol,

(b)     cadw’r cofnodion yn ddiogel,

(c)     sicrhau bod y cofnodion yn cael eu danfon i’r awdurdod lleoli pan fydd y gwasanaeth yn peidio â chael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef,

(d)     gwneud trefniadau addas er mwyn iʼr cofnodion barhau i gael eu cadwʼn ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau,

(e)     rhoiʼr cofnodion ar gael i Weinidogion Cymru ar gais,

(f)      sicrhau bod plant syʼn defnyddioʼr gwasanaeth—

                            (i)    yn cael eu gwneud yn ymwybodol oʼu hawliau i gael mynediad iʼw cofnodion, a

                          (ii)    yn cael mynediad iʼw cofnodion fel y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu.

Hysbysiadau

40.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu Gweinidogion Cymru am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleoli am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3.

(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r plentyn wedi ei leoli yn ei ardal am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3.

(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r heddlu am y digwyddiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3.

(6) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(7)   Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(8) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

Gwrthdaro buddiannau

41. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion posibl o wrthdaro buddiannau.

Polisi a gweithdrefnau cwyno

42.(1)(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol â’r polisi hwnnw.

(2) Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan neu ar ran plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr ynghylch—

(a)     y darparwr,

(b)     rhieni maeth, ac

(c)     unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(3) Rhaid i’r polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir i’r darparwr gwasanaeth gan neu ar ran unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt ynghylch—

(a)     y darparwr, a

(b)     unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(4) Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan rieni maeth ynghylch—

(a)     y darparwr, a

(b)     unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(5) Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr gwasanaeth gan rieni unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr ynghylch—

(a)     y darparwr, a

(b)     unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(6) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion, gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)     nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,

(b)     rhoi ymateb priodol i berson sy’n gwneud cwyn, os yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r person hwnnw,

(c)     sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, a

(d)     cadw cofnodion syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) i (c).

(7) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(8) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     dadansoddi gwybodaeth syʼn ymwneud â chwynion a phryderon, a

(b)     gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.

Chwythu’r chwiban

43.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod pob person syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am y gwasanaeth.

(2) Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—

(a)     cael polisi chwythuʼr chwiban yn ei le a gweithredu yn unol âʼr polisi hwnnw, a

(b)     sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl syʼn gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon oʼr fath.

(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y trefniadau sy’n ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

(4) Pan godir pryder, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau—

(a)     yr ymchwilir iʼr pryder,

(b)     y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac

(c)     y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).

RHAN 11

Cefnogi a goruchwylio rhieni maeth

Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer rhieni maeth

44.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan rieni maeth yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ddarparu gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn.

(2) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn cael unrhyw hyfforddiant, cyngor a chymorth, gan gynnwys cymorth y tu allan i oriau swyddfa, y maeʼn ymddangos eu bod yn angenrheidiol er budd plant sydd wedi eu lleoli gydaʼr rhieni maeth ac iʼw galluogi i ddarparu gofal a chymorth i blant yn unol â chynllun gofal a chymorth pob plentyn.

(3) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod darpar rieni maeth yn cael unrhyw hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

(4) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth fonitro ac adolyguʼr wybodaeth, yr hyfforddiant, y cyngor aʼr cymorth a ddarperir i rieni maeth a darpar rieni maeth a gwneud unrhyw welliannau syʼn angenrheidiol.

Polisïau a gweithdrefnau i rieni maeth

45. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd â’r polisïau a’r gweithdrefnau a sefydlir o dan reoliadau 11, 21, 22, 25, 26, 27, 42 ac 48 ac yn gweithredu yn unol â hwy.

Goruchwylio

46. Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth sicrhau bod rhieni maeth yn cael eu goruchwylioʼn briodol.

Perthnasoedd gwaith effeithiol

47. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     cynnal perthnasoedd proffesiynol da â rhieni maeth, a

(b)     annog a chynorthwyo rhieni maeth i gynnal perthnasoedd personol da â phlant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

Cefnogi plant i reoli eu harian

48.(1)(1) Rhaid iʼr darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle i alluogi rhieni maeth i ddarparu cymorth a chynhorthwy i blant o ran sut i reoli eu harian.

(2) Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodiʼr camau sydd iʼw cymryd gan rieni maeth i alluogi a chefnogi plant i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn plant rhag camdriniaeth ariannol.

(3) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sicrhau bod y darparwr gwasanaeth yn goruchwylio ac yn monitro’n ddigonol y cynilion a wneir gan rieni maeth ar ran plant.

(4) Pan foʼr rhieni maeth yn dal arian plentyn at unrhyw ddiben, rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau syʼn ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enwʼr plentyn neu mewn cyfrif syʼn ei gwneud yn bosibl darnodi arian y plentyn yn glir.

(5) Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sicrhau bod rhieni maeth yn trosglwyddo’r holl gofnodion o gynilion (gan gynnwys gwariant o gynilion) i’r darparwr gwasanaeth pan ddaw lleoliad y plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef i ben.

RHAN 12

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol

Goruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth

49. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol oruchwylio’r gwaith o reoli’r gwasanaeth.

Dyletswydd i benodi rheolwr

50.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, yr amodau yw—

(a)     bod y darparwr gwasanaeth yn bwriadu rheoli’r gwasanaeth,

(b)     bod y darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth,

(c)     yn ddarostyngedig i baragraff (6), bod y darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, a

(d)     bod Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r darparwr gwasanaeth reoli’r gwasanaeth.

(3) Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, yn gorff corfforaethol neu’n gorff anghorfforedig, yr amodau yw—

(a)     bod y darparwr gwasanaeth yn cynnig bod yr unigolyn sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth i’w benodi i reoli’r gwasanaeth,

(b)     bod yr unigolyn hwnnw yn addas i reoli’r gwasanaeth,

(c)     yn ddarostyngedig i baragraff (6), bod yr unigolyn hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr â GCC, a

(d)     bod Gweinidogion Cymru yn cytuno i’r unigolyn hwnnw reoli’r gwasanaeth.

(4) At ddibenion paragraff (2)(b), nid yw’r darparwr gwasanaeth yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 30(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r darparwr gwasanaeth.

(5) Nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) wedi ei chyflawni os yw’r person a benodir i reoli’r gwasanaeth yn absennol am gyfnod o fwy na thri mis.

(6) Nid yw’r amod ym mharagraffau (2)(c) a (3)(c) ond yn gymwys o 1 Ebrill 2022.

Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr

51.(1)(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 30(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

Cyfyngiadau ar benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth

52.(1)(1) Ni chaiff yr unigolyn cyfrifol benodi person i reoli mwy nag un gwasanaeth, oni bai bod paragraff (2) yn gymwys.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)     os yw’r darparwr gwasanaeth wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd i benodi rheolwr ar gyfer mwy nag un gwasanaeth, a

(b)     os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

                            (i)    na fydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y gofal a’r cymorth a ddarperir i blant, a

                          (ii)    y bydd y trefniadau rheoli arfaethedig yn darparu goruchwyliaeth ddibynadwy ac effeithiol o bob gwasanaeth.

Dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i’r darparwr gwasanaeth

53. Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 50(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i’r darparwr gwasanaeth o—

(a)     enw’r person a benodir, a

(b)     y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

Dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru

54.(1)(1) Wrth benodi rheolwr yn unol â rheoliad 50(1), rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi hysbysiad i GCC a Gweinidogion Cymru o—

(a)     enw, dyddiad geni a rhif cofrestru GCC y person a benodir, a

(b)     y dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith.

(2) Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn i reoli’r gwasanaeth, rhaid i’r unigolyn hwnnw roi hysbysiad i GCC o—

(a)     ei enw, ei ddyddiad geni a’i rif cofrestru GCC, a

(b)     y dyddiad y bydd yn rheoli’r gwasanaeth ohono.

Y trefniadau pan yw’r rheolwr yn absennol

55.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.

(2) Os nad oes rheolwr neu os yw’r rheolwr yn absennol am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)     hysbysu’r darparwr gwasanaeth a Gweinidogion Cymru, a

(b)     rhoi gwybod iddynt am y trefniadau sydd wedi eu rhoi yn eu lle ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.

Ymweliadau

56.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol—

(a)     ymweld â’r fangre y darperir y gwasanaeth ohoni,

(b)     cwrdd ag aelodau o staff sydd wedi eu cyflogi gan y darparwr gwasanaeth o bob man y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef, ac

(c)     cwrdd â phlant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr gwasanaeth a’u rhieni maeth.

(2) Mae amlder ymweliadau a chyfarfodydd o’r fath i’w benderfynu gan yr unigolyn cyfrifol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben, ond rhaid i’r rhain gael eu cynnal o leiaf bob tri mis.

RHAN 13

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol

Goruchwylio digonolrwydd adnoddau

57.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd i’r darparwr gwasanaeth am ddigonolrwydd yr adnoddau sydd ar gael i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.

(2) Rhaid i adroddiadau o’r fath gael eu gwneud yn chwarterol.

(3) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth

58.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol, yn ddi-oed, adrodd i’r darparwr gwasanaeth—

(a)     am unrhyw bryderon ynghylch rheoli neu ddarparu’r gwasanaeth,

(b)     am unrhyw newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff y gwasanaeth ei reoli neu ei ddarparu, ac

(c)     am unrhyw bryderon nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

(2) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Ymgysylltu â phlant ac eraill

59.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—

(a)     unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,

(b)     rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,

(c)     rhieni maeth,

(d)     yr awdurdod lleoli, ac

(e)     staff sy’n cael eu cyflogi yn y gwasanaeth,

ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir i blant a sut y gellir gwella hyn.

(2) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.

RHAN 14

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau cydymffurfedd y gwasanaeth

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi digwyddiadau a chwynion

60. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle i gofnodi digwyddiadau, cwynion a materion y mae rhaid gwneud hysbysiadau yn eu cylch o dan reoliadau 40 a 67.

Dyletswydd i sicrhau bod systemau yn eu lle ar gyfer cadw cofnodion

61. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau bod systemau effeithiol yn eu lle mewn perthynas â chadw cofnodion, sy’n cynnwys systemau ar gyfer sicrhau bod y cofnodion y mae rhaid iddynt gael eu cadw o dan reoliad 39 yn gywir ac yn gyflawn.

Dyletswydd i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn gyfredol

62. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r darparwr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfredol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.

RHAN 15

Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth

Adolygiad o ansawdd y gofal

63.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

(2) Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i ansawdd y gwasanaeth gael ei adolygu mor aml ag sy’n ofynnol, ond o leiaf bob chwe mis.

(3) Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau addas ar gyfer—

(a)     ystyried canlyniad yr ymgysylltiad â phlant ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 59 (ymgysylltu â phlant ac eraill),

(b)     dadansoddi data cyfanredol ar hysbysiadau, materion diogelu, pryderon chwythu’r chwiban a chwynion,

(c)     adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion, a

(d)     ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.

(4) Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gwasanaeth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—

(a)     asesiad o safon y gofal a’r cymorth a ddarperir, a

(b)     argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.

(5) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.

Datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth

64.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad blynyddol o dan adran 10(2)(b) o Ddeddf 2016.

(2) Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon y gofal a’r cymorth a gynhwysir yn yr adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 63(4).

RHAN 16

Gofynion eraill ar unigolion cyfrifol

Cymorth ar gyfer staff sy’n codi pryderon

65. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol sicrhau y cydymffurfir â pholisi chwythu chwiban y darparwr a bod y trefniadau i alluogi a chefnogi pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon o’r fath yn cael eu gweithredu’n effeithiol.

Dyletswydd gonestrwydd

66. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol weithredu mewn ffordd agored a thryloyw gydag—

(a)     unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr gwasanaeth,

(b)     rhieni unrhyw blentyn oʼr fath,

(c)     rhieni maeth a darpar rieni maeth,

(d)     yr awdurdod lleoli.

Hysbysiadau

67.(1)(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol hysbysu Gweinidogion Cymru am y digwyddiadau a bennir yn Atodlen 4.

(2) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys manylion y digwyddiad.

(3) Rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(4) Oni nodir fel arall, rhaid i hysbysiadau gael eu gwneud yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig.

RHAN 17

Troseddau

Troseddau – darparwyr gwasanaethau

68.(1)(1) Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)([18]).

(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau—

(a)     4(3) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),

(b)     4(4) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),

(c)     8(3) (gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth),

(d)     9(1) (gofyniad i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau),

(e)     12(1) (gwybodaeth am y gwasanaeth),

(f)      12(2) (gwybodaeth am y gwasanaeth),

(g)     12(3) (gwybodaeth am y gwasanaeth),

(h)     25 (polisi a gweithdrefnau ar fwlio),

(i)       26 (y weithdrefn pan yw plentyn yn absennol heb ganiatâd),

(j)       30(1) (addasrwydd staff),

(k)     33(1) (gwybodaeth ar gyfer staff),

(l)       39(1) (cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu),

(m)   39(2) (cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu),

(n)     40(1) (hysbysiadau),

(o)     40(2) (hysbysiadau),

(p)     40(3) (hysbysiadau),

(q)     40(4) (hysbysiadau),

(r)      40(5) (hysbysiadau),

(s)      40(8) (hysbysiadau).

(3) Mae darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd os yw’r darparwr yn methu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (4) a bod methiant o’r fath yn arwain at—

(a)     niwed y gellir ei osgoi (pa un ai o natur gorfforol neu seicolegol) i blentyn,

(b)     plentyn yn cael ei wneud yn agored i risg sylweddol o niwed o’r fath, neu

(c)     yn achos dwyn, camddefnyddio neu gamberchnogi arian neu eiddo, unrhyw golled gan blentyn o’r arian neu’r eiddo o dan sylw.

(4) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (3) yw darpariaethau rheoliadau—

(a)     3 (gofynion mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth),

(b)     4(1) (gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben),

(c)     9(5) (gofyniad i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau),

(d)     11(1) (addasrwydd y gwasanaeth),

(e)     11(3) (addasrwydd y gwasanaeth),

(f)      13 (safonau gofal a chymorth – gofynion cyffredinol),

(g)     20 (diogelu),

(h)     27(3) (mynediad i wasanaethau iechyd),

(i)       29 (staffio – gofynion cyffredinol).

Troseddau – unigolion cyfrifol

69.(1)(1) Mae’n drosedd i’r unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2)([19]).

(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliadau—

(a)     50(1) (dyletswydd i benodi rheolwr),

(b)     51(1) (gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr),

(c)     54(1) (dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru),

(d)     54(2) (dyletswydd i adrodd am benodiad rheolwr i GCC a Gweinidogion Cymru),

(e)     56(1) (ymweliadau),

(f)      56(2) (ymweliadau),

(g)     57(1) (goruchwylio digonolrwydd adnoddau),

(h)     57(2) (goruchwylio digonolrwydd adnoddau),

(i)       58(1) (adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth),

(j)       63(4) (adolygiad o ansawdd y gofal),

(k)     64(1) (datganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth),

(l)       67(1) (hysbysiadau), ac

(m)   67(4) (hysbysiadau).

RHAN 18

Darparwyr gwasanaethau sydd wedi eu datod etc. neu sydd wedi marw

Penodi datodwyr etc.

70. Rhaid i berson a benodir([20])—

(a)     yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’i benodiad a’r rhesymau dros ei benodi;

(b)     o fewn 28 o ddiwrnodau i’w benodi, hysbysu Gweinidogion Cymru am ei fwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

Marwolaeth y darparwr gwasanaeth

71.(1)(1) Pan fo darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn wedi marw, rhaid i gynrychiolwyr personol yr unigolyn—

(a)     yn ddi-oed, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r farwolaeth i Weinidogion Cymru, a

(b)     o fewn 28 o ddiwrnodau i’r farwolaeth, hysbysu Gweinidogion Cymru am eu bwriadau ynglŷn â gweithrediad y gwasanaeth yn y dyfodol.

(2) Caiff cynrychiolwyr personol yr unigolyn weithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth am gyfnod nad yw’n hwy nag 28 o ddiwrnodau neu am unrhyw gyfnod hwy (nad yw’n hwy nag un flwyddyn) y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(3) Pan fo’r cynrychiolwyr personol yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth yn unol â pharagraff (2), mae Rhan 1 o Ddeddf 2016 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)     nid yw adran 5 (gofyniad i gofrestru) yn gymwys;

(b)     mae adran 21(2) (unigolion cyfrifol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)—

(aa)   pan fo cynrychiolwyr personol darparwr gwasanaeth sydd wedi marw yn gweithredu yn rhinwedd y darparwr gwasanaeth, fod yn un o’r cynrychiolwyr personol;.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwasanaeth” yw’r gwasanaeth maethu yr oedd y darparwr unigol sydd wedi marw wedi ei gofrestru i’w ddarparu ar adeg ei farwolaeth.

RHAN 19

Rheoliadau o dan adran 21(5) o Ddeddf 2016

Dynodiad unigolyn cyfrifol gan Weinidogion Cymru

72. Caiff Gweinidogion Cymru (yn lle darparwr gwasanaeth) ddynodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol, er nad yw gofynion adran 21(2) o Ddeddf 2016 wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r unigolyn, o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)     bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn sydd wedi marw ac mae cynrychiolwyr personol y darparwr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru nad ydynt yn bwriadu gwneud cais o dan adran 11(1)(c) o Ddeddf 2016;

(b)     bod y darparwr gwasanaeth yn unigolyn ac wedi hysbysu Gweinidogion Cymru—

                            (i)    na all gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach, a

                          (ii)    y rhesymau dros hyn;

(c)     bod y darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth ac wedi hysbysu Gweinidogion Cymru—

                            (i)    nad yw’r unigolyn sydd wedi ei ddynodi gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol mwyach,

                          (ii)    y rhesymau dros hyn, a

                        (iii)    nad oes unrhyw unigolyn arall sy’n gymwys i fod yn unigolyn cyfrifol ac sy’n gallu cydymffurfio â dyletswyddau unigolyn cyfrifol.

 

 

Enw

Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

 

Dyddiad

                    ATODLEN 1                   
Rheoliad 30(2) a (3)

RHAN 1

Gwybodaeth a dogfennaeth sydd i fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau syʼn gweithio mewn gwasanaethau maethu

1. Prawf o bwy ywʼr person gan gynnwys ffotograff diweddar.

2. Pan foʼn ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997([21]), copi o dystysgrif cofnod troseddol ddilys a ddyroddir o dan adran 113A oʼr Ddeddf honno ynghyd, ar ôl y diwrnod penodedig a phan foʼn gymwys, âʼr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006([22]) (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

3. Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl ddilys a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd, pan fo’n gymwys, â gwybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o’r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd sy’n ymwneud ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr “suitability information relating to vulnerable adults” yn adran 113BB(2) o’r Ddeddf honno).

4. Dau eirda ysgrifenedig, gan gynnwys geirda gan y cyflogwr diwethaf, os oes un.

5. Pan fo person wedi gweithioʼn flaenorol mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf, cadarnhad, iʼr graddau y boʼn rhesymol ymarferol, oʼr rheswm pam y daeth y gyflogaeth neuʼr swydd i ben.

6. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

7. Pan foʼn berthnasol, tystiolaeth ddogfennol o gofrestriad â GCC.

8. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

9. Manylion cofrestriad ag unrhyw gorff proffesiynol neu aelodaeth o gorff oʼr fath.

RHAN 2

Dehongli  Rhan 1

10. At ddibenion paragraffau 2 a 3 o Ran 1 o’r Atodlen hon—

(a)     os nad ywʼr person y maeʼr dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, nid yw tystysgrif ond yn ddilys—

                            (i)    os y’i dyroddwyd mewn ymateb i gais gan y darparwr gwasanaeth yn unol â rheoliad 30(3) neu (6), a

                          (ii)    os nad oes mwy na thair blynedd wedi mynd heibio ers iʼr dystysgrif gael ei dyroddi;

(b)     os yw’r person y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaru’r GDG, mae’r dystysgrif yn ddilys ni waeth pa bryd y’i dyroddwyd.

                    ATODLEN 2                   
Rheoliadau 2 a 39

Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr gwasanaethau

1. Cofnod syʼn dangos mewn cysylltiad â phob plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth—

(a)     dyddiad lleoliʼr plentyn;

(b)     cynllun gofal a chymorth y plentyn;

(c)     y cytundeb gofal maeth mewn cysylltiad âʼr plentyn;

(d)     enw a chyfeiriad y rhieni maeth;

(e)     y dyddiad y daeth lleoliad y plentyn yno i ben;

(f)      cyfeiriad y plentyn cyn y lleoliad;

(g)     cyfeiriad y plentyn wrth iddo ymadael âʼr lleoliad;

(h)     awdurdod lleol y plentyn;

(i)       y ddarpariaeth statudol y mae neu yr oedd gofal maeth yn cael ei ddarparu iʼr plentyn odani.

2. Cofnod oʼr holl bersonau syʼn gweithio iʼr darparwr gwasanaeth, a hwnnwʼn gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn mewn cysylltiad â pherson syʼn dod o fewn rheoliad 30(1)—

(a)     enw llawn a chyfeiriad cartref;

(b)     dyddiad geni;

(c)     rhyw;

(d)     cymwysterau syʼn berthnasol i, a phrofiad o wneud, gwaith syʼn ymwneud â phlant;

(e)     copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) mewn cysylltiad â’r person;

(f)      copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad âʼr person;

(g)     pa un a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu heblaw o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr gwasanaeth;

(h)     pa un a ywʼr person yn gweithioʼn llawnamser neuʼn rhan-amser, ac, os ywʼn rhan-amser, nifer yr oriau syʼn cael eu gweithio ar gyfartaledd bob wythnos;

(i)       y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;

(j)       y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth;

(k)     cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person; ac

(l)       cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.

3. Cofnod o bob damwain ddifrifol ac anaf difrifol syʼn digwydd i blant tra bônt wedi eu lleoli gyda rhieni maeth.

4. Cofnod o’r holl gwynion a wneir o dan y polisi cwyno y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei roi yn ei le, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw gwynion o’r fath.

5. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw atgyfeiriadau diogelu, aʼr canlyniad.

6. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli neu atal a ddefnyddir gan rieni maeth ar blentyn.

                   SCHEDULE 3     Rheoliad 40

Hysbysiadau gan y darparwr gwasanaeth

RHAN 1

Hysbysiadau i Weinidogion Cymru

1. Unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, 28 o ddiwrnodau cyn i’r datganiad o ddiben diwygiedig gymryd effaith.

2. Bod y darparwr gwasanaeth (unigolyn neu sefydliad) yn newid ei enw.

3.Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gwmni, unrhyw newid i gyfarwyddwyr y cwmni.

4. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn, penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw.

5. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn gorff corfforaethol neu’n bartneriaeth, penodi derbynnydd, rheolwr derbynnydd, datodwr neu ddatodwr dros dro mewn perthynas â’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno.

6. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, marwolaeth un o’r partneriaid.

7. Pan fo’r darparwr gwasanaeth yn bartneriaeth, unrhyw newid i’r partneriaid.

8. Absenoldeb disgwyliedig yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

9. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl i’r absenoldeb ddechrau.

10. Absenoldeb annisgwyl yr unigolyn cyfrifol am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth i’r 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrau’r absenoldeb ddod i ben.

11. Bod yr unigolyn cyfrifol yn dychwelyd o fod yn absennol.

12. Bod yr unigolyn cyfrifol yn peidio â bod, neu’n bwriadu peidio â bod, yr unigolyn cyfrifol am y gwasanaeth.

13. Unrhyw gam-drin neu honiad o gam-drin mewn perthynas â phlentyn sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth, aelod o staff, gwirfoddolwr a/neu riant maeth.

14. Bod y darparwr gwasanaeth, yr unigolyn cyfrifol neu’r rheolwr a benodir wedi ei euogfarnu o drosedd.

15. Unrhyw honiad o gamymddwyn gan aelod o staff.

16. Damwain ddifrifol neu anaf difrifol plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

17. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

18. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

19. Unrhyw atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

20. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant sy’n ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

21. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

22. Unrhyw gynnig i newid cyfeiriad y brif swyddfa, 28 o ddiwrnodau cyn i’r newid ddigwydd. 

RHAN 2

Hysbysiadau iʼr awdurdod lleoli

23. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

24. Unrhyw atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

25. Damwain ddifrifol neu anaf difrifol plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

26. Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.

27. Honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol.

28. Unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei adrodd i’r heddlu syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

29. Unrhyw achos o blentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth yn absennol heb ganiatâd. 

30. Unrhyw gŵyn ddifrifol neu honiad difrifol ynghylch unrhyw rieni maeth a gymeradwywyd gan y darparwr gwasanaeth.

31. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

32. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

RHAN 3

Hysbysiadau iʼr awdurdod ardal y maeʼr cartref maeth yn ei ardal

 

33. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

34. Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.

35. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

36. Cychwyn a chanlyniad unrhyw ymholiad amddiffyn plant syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

37. Unrhyw ddigwyddiad syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth a gaiff ei adrodd i’r heddlu.

RHAN 4

Hysbysiadau iʼr Bwrdd Iechyd Lleol y maeʼr plentyn wedi ei leoli yn ei ardal

 

38. Marwolaeth plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth.

39. Unrhyw glefyd heintus yn torri allan yng nghartref rhieni maeth, a hwnnw’n glefyd sydd, ym marn ymarferydd cyffredinol syʼn ymweld âʼr cartref, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano felly.

RHAN 5

Hysbysiadau iʼr heddlu

40. Honiad bod plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth wedi cyflawni trosedd ddifrifol. 

41. Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu unrhyw amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn.

 

                    ATODLEN 4                   
Rheoliad 67(1)

Hysbysiadau gan yr unigolyn cyfrifol

1. Penodi rheolwr (gweler rheoliad 50(1)).

2. Absenoldeb disgwyliedig y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, 7 niwrnod cyn i’r absenoldeb ddechrau.

3. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, heb fod yn hwyrach na 7 niwrnod ar ôl iʼr absenoldeb ddechrau.

4. Absenoldeb annisgwyl y rheolwr a benodir, am 28 o ddiwrnodau neu ragor, pan na fo hysbysiad ymlaen llaw wedi ei roi, yn union wrth iʼr 28 o ddiwrnodau yn dilyn dechrauʼr absenoldeb ddod i ben.

5. Bod y rheolwr a benodir yn dychwelyd o fod yn absennol.

6. Trefniadau interim pan foʼr rheolwr yn absennol am fwy nag 28 o ddiwrnodau.

7. Bod rhywun ac eithrioʼr rheolwr a benodir yn bwriadu rheoli neu yn rheoliʼr gwasanaeth.

8. Bod y rheolwr a benodir yn peidio, neuʼn bwriadu peidio, â rheoliʼr gwasanaeth.

 



([1])   2016 dccc 2; gweler adran 189 am y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig”.

([2])   2010 p. 15, adran 20.

([3])   1996 p. 18.

([4])   Diffinnir “Deddf 2014” yn adran 189 o Ddeddf 2016 fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

([5])   Mae rheoliad 3(c) o Reoliadau Cofrestru 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth maethu ddarparu datganiad o ddiben ar gyfer pob man y mae’r gwasanaeth i’w ddarparu mewn perthynas ag ef.

([6])   2012 p. 9.

([7])   Gweler adran 67(3) o Ddeddf 2016 am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymru fel “GCC”.

([8])   O.S. 2002/254.

([9])   O.S. 2015/1818 (Cy. 261).

([10]) O.S. 2018/XXXX (Cy. X). Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer sicrhau nad yw plentyn yn cael ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol oni bai bod y person hwnnw wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol gan awdurdod lleol o’r fath neu ddarparwr gwasanaeth rheoleiddiedig.

([11]) O.S. 2017/1098 (Cy. 278).

([12]) 2005 p. 9.

([13]) Amnewidiwyd y diffiniad o “registered medical practitioner” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) gan O.S. 2002/3135, Atodlen 1, paragraff 10 ag iddo effaith o 16 Tachwedd 2009.

([14]) 2006 p. 42.

([15]) Mae adran 6 o Ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n dymuno darparu gwasanaeth rheoleiddiedig wneud cais i gofrestru i Weinidogion Cymru sy’n dynodi unigolyn fel yr unigolyn cyfrifol.

([16]) Mae adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau, roi sylw dyledus i ofynion Rhan 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 dyddiedig 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”). Mae erthygl 31 o Ran 1 o’r Confensiwn yn cydnabod hawl plentyn i chwarae.

([17]) Gweler adran 79(1)(b) o Ddeddf 2016 am y diffiniad o “rheolwr gofal cymdeithasol”.

([18]) Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o Ddeddf 2016.

([19]) Am gosbau yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y rheoliad hwn, gweler adran 51(1) o Ddeddf 2016.

([20]) Mae i “person a benodir” yr un ystyr ag yn adran 30 o Ddeddf 2016.

([21]) 1997 p. 50.

([22]) 2006 p. 47.Mae adrannau newydd 30A a 30B i’w rhoi yn lle adrannau 30 i 32 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y’i deddfwyd yn wreiddiol o ganlyniad i amnewidiadau a wnaed gan adran 72(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Mae adran 72(1) i’w chychwyn ar ddiwrnod sydd i’w bennu.